Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

20 Mehefin 2022

SL(6)205 Rheoliadau Pontio o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru gael cynllun pontio gydag ysgolion cynradd sy'n bwydo. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â'r cynlluniau pontio hynny. Diben y cynlluniau pontio yw hwyluso'r broses o drosglwyddo disgyblion o'r ysgolion cynradd i'r ysgol uwchradd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynlluniau pontio. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys yr hyn sydd i ymdrin ag ef yn y cynlluniau, yr amserlen ar gyfer eu llunio ac yn nodi i bwy y mae’r cynlluniau yn gymwys yn ogystal â manylion ar gyfer adolygu a chyhoeddi ar gyfer cynllun pontio.

Mae’r Rheoliadau yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd) (Cymru) 2006. 

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Addysg 2002

Fe’u gwnaed ar: 23 Mai 2022

Fe’u gosodwyd ar: 26 Mai 2022

Yn dod i rym ar: 01 Gorffennaf 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

20 Mehefin 2022

SL(6)208 Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, o ran Cymru, Reoliad (EU) 2016/6 a ddargedwir sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima.  Maent hefyd yn dirymu dau arall o Reoliadau’r UE a ddargedwir, a oedd yn diwygio Rheoliad (EU) 2016/6 yn wreiddiol ac sy’n cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Datganiad OFFC 2019/W/04, a ddyroddwyd yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn gweithredu yn rhannol Reoliad (EU) 2016/6 o ran Cymru.

Rhiant-Ddeddf: Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor

Fe’u gwnaed ar: 27 Mai 2022

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mai 2022

Yn dod i rym ar: 01 Gorffennaf 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

20 Mehefin 2022

SL(6)206 Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n codi wrth weithredu Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). Sail resymegol y Llywodraeth dros hyn, fel y darperir yn y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn (ym mharagraff 4.2), yw eu bod “yn angenrheidiol o ganlyniad i Ddeddf 2021 ac er mwyn rhoi effaith lawn iddi.”

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer Atodlen 1, sy’n cynnwys mân gywiriadau i adrannau 13 i 16 o Ddeddf 2021.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer Atodlen 2, sy’n cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol arall. Er enghraifft, mae diwygiadau yn Atodlen 2 yn diwygio terminoleg mewn deddfiadau sylfaenol fel bod eu darpariaethau yn cyd-fynd â Deddf 2021, gan gynnwys dileu cyfeiriadau at "Cwricwlwm Cenedlaethol" a'r "cyfnodau allweddol" ac (ar wahân) mewnosod cyfeiriadau at "Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg" a "pedwar diben cwricwlwm". Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Deddf Addysg 1997 i ymestyn ystod oedran personau penodol y mae'n rhaid darparu rhaglen addysg gyrfaoedd ar eu cyfer.

Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer cychwyn y Rheoliadau hyn fesul grŵp blwyddyn. Bydd hyn yn adlewyrchu'r bwriad i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod o amser fesul grŵp blwyddyn o fis Medi 2022.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: